Y Dyngarwr Steve Morgan CBE yn agor canolfan newydd i gynorthwyo cleifion canser yng Ngogledd Cymru

Thursday 25 September 2025


Canolfan Maggie's yn barod i groesawu pobl sy'n byw gyda chanser yn Sir Ddinbych [Gogledd Cymru] diolch i rodd o £4 miliwn gan Sefydliad Steve Morgan.


Ymhlith y gwesteion, roedd Jules Peters a'r canwr opera Rhys Meirion.

Mae canolfan newydd i gynnig gofal i gleifion canser yng Ngogledd Cymru wedi’i hagor gan y dyngarwr Steve Morgan CBE.

Mae Canolfan Maggie’s Gogledd Cymru yn Adeilad Sefydliad Steve Morgan, a adeiladwyd ar dir Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Sir Ddinbych,  wedi'i chomisiynu, ei dylunio a'i hariannu'n llwyr gan Sefydliad Steve Morgan.  Bydd y ganolfan newydd yn cynorthwyo ardal gyfan Gogledd Cymru ble bydd 4800 o bobl yn cael diagnosis newydd yn cadarnhau canser bob blwyddyn.

Dywedodd y Fonesig Laura Lee, DBE, Prif Weithredwr Maggie's: “Rydym wrth ein bodd fod ein canolfan newydd yn Sir Ddinbych ar agor a’n bod bellach yn gallu cynorthwyo pobl sy’n byw gyda chanser, gan gynnwys perthnasau a ffrindiau, o bob cwr o Ogledd Cymru.

“Rydym wedi gallu cynnig gwasanaethau Maggie's yng Ngogledd Cymru diolch i gymorth rhyfeddol o hael Sefydliad Steve Morgan i gomisiynu, dylunio, adeiladu ac ariannu ein canolfan, ac rwy’n hynod o ddiolchgar am hynny.

“Mae Sefydliad Steve Morgan wedi ymrwymo i adeiladu tair canolfan Maggie's newydd yn y Gogledd Orllewin - gan gynnwys yr un yng Ngogledd Cymru - ac mae hynny’n weithred ddyngarol wirioneddol ryfeddol.

“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at barhau i gydweithio â Sefydliad Steve Morgan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sicrhau ein bod yn cynorthwyo cymaint â phosibl o bobl o bob cwr o'r ardal.

“Mae gwasanaethau Maggie's ar gael i bawb y mae arnynt eu hangen, ac rydym yn eu cynnig yn rhad ac am ddim ac nid oes angen i neb drefnu apwyntiad na chael eu cyfeirio. Rydyn ni'n gwybod bod hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i helpu pobl i ymdopi â'u diagnosis:  yn cynnwys paratoi at driniaeth canser, cymorth â’r sgil-effeithiau posibl, cymorth ar ôl triniaeth, cynnig cyngor ynghylch budd-daliadau, neu ymdopi â chanser sydd wedi lledaenu.

“Rwyf wrth fy modd bod Maggie's Gogledd Cymru bellach ar agor, a bod cymorth elusen Maggie’s ar gael ym mhob un o dair canolfan canser y GIG yng Nghymru”.

Fe wnaeth Sefydliad Steve Morgan ddarparu £4 miliwn i adeiladu'r ganolfan yng Ngogledd Cymru, ac mae eisoes wedi comisiynu, dylunio, adeiladu ac ariannu Canolfan Maggie's Cilgwri a agorwyd  ar dir Canolfan Ganser Clatterbridge yng Nghilgwri ym mis Medi 2021.  Yn 2024, fe wnaeth y ganolfan gynorthwyo pobl bron i 20,000 o weithiau.

Bydd trydedd Ganolfan Maggie's yn Lerpwl yn cael ei hadeiladu o fewn tiroedd Ysbyty Brenhinol Newydd Lerpwl wrth ymyl Canolfan Ganser Clatterbridge newydd yn Lerpwl - cafwyd caniatâd cynllunio yr wythnos diwethaf a bydd hefyd yn cael ei hadeiladu diolch i Sefydliad Steve Morgan. 

Dywedodd Steve Morgan CBE, Cadeirydd Sefydliad Steve Morgan: “Mae’n wych fod canolfan newydd Maggie’s yng Ngogledd Cymru wedi agor.

“Bydd y ganolfan newydd yn sicrhau bod gan bobl Gogledd Cymru fynediad hawdd at y cymorth hanfodol ynghylch canser y mae Maggie’s yn ei gynnig ac rydym yn falch o allu galluogi hynny. Ethos y Sefydliad yw 'rhoddi arian yn dda' ac mae ein partneriaeth ag elusen Maggie's yn enghraifft berffaith o sut y gallwn harneisio ein harbenigedd, ein cymorth ymarferol a'n profiad masnachol i fanteisio’n llawn ar ddylanwad ein cymorth ariannol.

“Testun cyffro i ni yw gweld y ganolfan hon yn gwneud yr hyn y bwriedir iddi ei wneud - cynorthwyo pobl â chanser yn ystod y cyfnod anoddaf yn eu bywydau o bosibl - a pharhau â’n partneriaeth ag elusen Maggie’s drwy ddatblygu’r ganolfan yn Lerpwl.”

Roedd Jules Peters, gwraig y diweddar Mike Peters o'r band roc Cymreig The Alarm, hefyd yn bresennol yn yr agoriad swyddogol.

Bu farw Mike yn gynharach eleni ar ôl byw gyda chanser am 30 mlyneddCanodd eu mab Evan gyda Rhys Meirion, y canwr opera o Gymru, i helpu i ddathlu'r agoriad swyddogol.

Dywedodd Jules: “Mae’n hyfryd bod yma heddiw i weld Canolfan Maggie’s yng Ngogledd Cymru yn agor.   Mae angen mawr am gymorth arbenigol a rhad ac am ddim elusen Maggie’s i bobl sy'n byw gyda chanser, a bydd y ganolfan yn helpu nifer fawr o bobl yn ystod cyfnod y gwn ei fod yn anodd.  Byddai Mike wedi bod wrth ei fodd yn gweld y ganolfan yn agor, ac rwy'n siŵr y byddem wedi ymweld â’r ganolfan.”

Cafodd Kevin Owen, 61 oed, ddiagnosis yn cadarnhau canser yn 2021 ac mae wedi cael cymorth gan Ganolfan Maggie's Cilgwri ac roedd hefyd yn bresennol yn agoriad swyddogol y ganolfan.

Dywedodd: “Roeddwn i’n ffodus yn ystod ac ar ôl fy nhriniaeth canser fod Canolfan Maggie's yng Nghanolfan Canser Clatterbridge, Cilgwri, yn agos at fy nghartref. Mae'r cymorth a gefais gan Maggie's wedi helpu i sicrhau bod taith anodd ychydig yn haws. Fel Cymro Cymraeg yn hanu o Fethesda, roeddwn yn cysylltu â phobl eraill o'r ardal honno yr oedd canser yn effeithio arnynt a sylweddolais pa mor ffodus oeddwn i i fod yn agos at Ganolfan Maggie's.

“Bydd y Ganolfan Maggie's newydd yng Nglan Clwyd yn ei gwneud hi'n llawer haws i bobl ledled Gogledd Cymru gael y cymorth gwych a gynigir. Mae’n wasanaeth cymorth mawr ei angen ar gyfer pobl y maes canser yn effeithio arnynt yng Ngogledd Cymru.”

Caiff Ysbyty Glan Clwyd ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a lleolir Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru yno.

Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydym wrth ein bodd bod Gogledd Cymru bellach yn gartref i ganolfan Maggie's newydd, sy’n cynnig cymorth amhrisiadwy i bobl sy'n byw gyda chanser ledled Gogledd Cymru. Mae’r ffaith fod y ganolfan wedi’i sefydlu yn Ysbyty Glan Clwyd, ble cafodd ein Canolfan Trin Canser yng Ngogledd Cymru ei hail-ddynodi'n ddiweddar yn Ganolfan Ragoriaeth Tessa Jowell ar gyfer niwro-oncoleg, yn cryfhau ein gallu rhanbarthol. Mae'n sicrhau bod gofal arbenigol a thosturiol ychwanegol ar gael yn nes at gartrefi cleifion. Rydym yn ddiolchgar i Sefydliad Steve Morgan a Maggie's am wireddu’r ganolfan angenrheidiol hon."

Maggie's Gogledd Cymru yw'r drydedd Ganolfan Maggie's yng Nghymru; agorwyd Canolfan Maggie's Abertawe yn 2011 a Chanolfan Maggie's Caerdydd yn 2019.  Yn ystod 2024, fe wnaeth y ddwy ganolfan yn Ne Cymru gynorthwyo pobl â chanser, yn ogystal â pherthnasau a ffrindiau, fwy na 18,500 o weithiau.

Mae gan Maggie's 30 mlynedd o brofiad ac arbenigedd yn cynnig cymorth a gwybodaeth am ganser am ddim mewn canolfannau ledled y DU.  Adeiladwyd y canolfannau ar dir ysbytai trin canser y GIG, ac maent yn fannau cynnes a chroesawgar sy’n cael eu rhedeg gan staff arbenigol, sy'n helpu pobl i fyw'n dda gyda chanser. 


Mae elusen Maggie's yn dibynnu bron yn gyfan gwbl ar roddion gwirfoddol i gynorthwyo a thyfu ei rhwydwaith o ganolfannau ac i ddatblygu ei rhaglen gymorth unigryw o ansawdd uchel. Nod yr elusen yw gwneud y gwahaniaeth mwyaf posibl er gwell i bobl sy'n byw gyda chanser a'u perthnasau a'u ffrindiau.

Rydym am i'n canolfannau gynorthwyo cymaint â phosibl o’r bobl hyn a’u perthnasau ac rydym yn dibynnu ar haelioni cymunedau o amgylch y canolfannau i wireddu hynny.

I gael rhagor o wybodaeth am Maggie's yng Ngogledd Cymru a sut allwch chi gynorthwyo'r ganolfan, trowch at: https://www.maggies.org/our-centres/maggies-north-wales/




English translation

Philanthropist Steve Morgan CBE opens new cancer support centre in North Wales 

Maggie’s centre ready to welcome people living with cancer in Denbighshire [North Wales] thanks to £4 million from the Steve Morgan Foundation


Guests included Jules Peters and opera singer Rhys Meirion.

A new cancer care centre in North Wales has been opened by philanthropist Steve Morgan CBE.

Maggie’s North Wales at the Steve Morgan Foundation Building, built in the grounds of Glan Clwyd Hospital in Bodelwyddan, Denbighshire, has been completely commissioned, designed and funded by the Steve Morgan Foundation. The new centre will support the whole North Wales area which sees 4800 people newly diagnosed with cancer every year. 

Dame Laura Lee, DBE, Chief Executive, of Maggie’s said: “We are delighted our new centre in Denbighshire is open and that we are now able to support people living with cancer, including family and friends, from across North Wales. We have been able to bring Maggie’s to North Wales thanks to the incredible generous support of the Steve Morgan Foundation in commissioning, designing, building and funding our centre, and for that I am so grateful.

“The Steve Morgan Foundation has committed to building three new Maggie’s centres in the North West – including the one in North Wales – which is a truly phenomenal act of philanthropy. I am greatly looking forward to continuing to work with the Steve Morgan Foundation, and Betsi Cadwaladr University Health Board to ensure we support as many people as possible from across the whole area.

“Maggie’s is here for everyone who needs it, and we are free with no appointment or referral required. We know this makes a huge difference to helping people cope with their diagnosis: from getting ready for cancer treatment, help with potential side-effects, support after treatment, providing benefits advice, or coping with advanced cancer. I’m delighted that Maggie’s North Wales is now open, and Maggie’s support is available at all three NHS cancer centres in Wales”.

The Steve Morgan Foundation provided £4 million to build the centre in North Wales, and has already commissioned, designed, built and funded Maggie’s, Wirral, which officially opened in the grounds of Clatterbridge Cancer Centre - Wirral in September 2021. In 2024, the centre supported people nearly 20,000 times.

A third Maggie’s centre in Liverpool – set to be built within the grounds of the New Royal Liverpool Hospital next to the new Clatterbridge Cancer Centre in Liverpool – received planning permission last week and is also being built thanks to the Steve Morgan Foundation.

Steve Morgan CBE, Chairman of the Steve Morgan Foundation, said: “It’s wonderful to have the new Maggie’s centre in North Wales open. The new centre will ensure the people of North Wales have easy access to the vital cancer support that Maggie’s provides and we are pleased to be able to make that happen. The ethos of the Foundation is to ‘give money away well’ and our partnership with Maggie’s is a prime example of how we can harness our expertise, practical support and commercial experience to maximise the impact of our financial support.

“We are very excited to see this centre doing what it has been designed to do – supporting people with cancer at possibly the hardest time of their lives – and to continuing our partnership with Maggie’s through the development of the centre in Liverpool.”

Jules Peters, wife of the late Mike Peters of Welsh rock band The Alarm, was also at the opening.

Mike died earlier this year after living with cancer for 30 years. Their son Evan sang with Welsh opera singer Rhys Meirion to help celebrate the opening.

Jules said: “It is wonderful to be here today to see the Maggie’s centre in North Wales open. Maggie’s free, expert support for people living with cancer is so badly needed and I know the centre will help a huge number of people at what I know is such a difficult time. Mike would have loved to see it open, and I am sure we would have visited.”

Kevin Owen, 61, was diagnosed with cancer in 2021 and has been supported by Maggie’s on the Wirral, and was also present at the centre’s opening.

He said: “I was fortunate during and after my cancer treatment to have a Maggie’s nearby to my home at the Clatterbridge Cancer Centre Wirral. The support I received from Maggie’s has helped make a difficult journey a bit easier. As a native Welsh speaker from Bethesda I was in touch with others affected by cancer from that area and realised how fortunate I was to be close to a Maggie’s. The new Maggie’s at Glan Clwyd will make it so much easier for people across North Wales to access the superb support offered.”

Glan Clwyd Hospital is managed by Betsi Cadwaladr University Health Board and is home of the North Wales Cancer Treatment Centre.

Carol Shillabeer, Chief Executive of Betsi Cadwaladr University Health Board, said: "We are delighted that North Wales now hosts a new Maggie’s centre, providing invaluable support to people living with cancer across North Wales. Its arrival at Glan Clwyd Hospital, where our North Wales Cancer Treatment Centre was recently re-designated as a Tessa Jowell Centre of Excellence for neuro-oncology, strengthens our regional capability. It ensures that additional compassionate, expert care is available close to home. We are grateful to the Steve Morgan Foundation and Maggie's for making this much-needed centre possible."

Maggie’s, North Wales is the third Maggie’s in Wales, with Maggie’s, Swansea opening in 2011 and Maggie’s, Cardiff opening in 2019. These two centres supported people with cancer, as well as family and friends, more than 18,500 times in 2024.

Maggie’s has 30 years of experience and expertise providing free cancer support and information in centres across the UK. Built in the grounds of NHS cancer hospitals, the centres are warm and welcoming and are run by expert staff, who help people live well with cancer.


Maggie’s relies almost entirely on voluntary donations to support and grow its network of centres and to develop its unique, high-quality programme of support. The charity’s aim is to make the biggest difference possible to people living with cancer and their family and friends.

We want our centres to be there to support as many of these people, and their families, as possible and we rely on the generosity of communities around the centres to make that happen.

To find out more about Maggie’s in North Wales and how you can support the centre please visit: https://www.maggies.org/our-centres/maggies-north-wales/

More news from our centres

More...

Get cancer support near you

To find your nearest Maggie's centre, enter your postcode or town below.

Sign up for our newsletter

Stay up to date with our news and fundraising by signing up for our newsletter.

Sign up